Amdani hi

Amdani hi

Mae’r soprano ifanc Glesni Rhys Jones ar hyn o bryd yn astudio gradd Meistr yn yr Academi Brenhinol yn Llundain, gyda chefnogaeth gan Gronfa Goffa Ryan Davies. Mae’n astudio gyda Raymond Connell a Libby Burgess, ac yn ddiweddar perfformiodd fel rhan o gorws yr Academi mewn cynhyrchiad o Carmen (Bizet).

Graddiodd gyda Dosbarth Cyntaf o Goleg Brenhinol Cerddoriaeth y Gogledd yn 2025, lle bu’n astudio gyda Hilary Summers. Yn ystod ei chyfnod ym Manceinion, enillodd wobr Cerddor y Flwyddyn Cymdeithas Gymraeg Manceinion a derbyniodd Amanda Ira Aldridge Honourable Mention yng nghystadleuaeth flynyddol Williams-Howard. Arweiniodd hyn at ddatganiad gyda’i phianydd Tsukushi Mitsuda yng Ngŵyl Ryngwladol Buxton.

Un uchafbwynt iddi oedd bod yn ysgolhaig gyda Chôr yr Hallé, gan weithio’n agos gyda’r arweinydd enwog Syr Mark Elder a Cherddorfa’r Hallé. Mae Glesni hefyd wedi ennill profiad rhyngwladol gwerthfawr, drwy ganu gyda Chôr Siambr yr RNCM a Cherddorfa Ieuenctid yr Almaen, gan deithio ar draws Ewrop a pherfformio mewn neuaddau mawreddog megis yr Elbphilharmonie yn Hamburg a’r Musikverein yn Vienna.

Mae Glesni’n falch iawn o’i chymreictod ac wedi ennill sawl cystadleuaeth yn Eisteddfodau Cymru dros y blynyddoedd. Ymddangosodd yn rowndiau terfynol Ysgoloriaeth Towyn Roberts a’r Unawd Soprano dan 25 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.

Mae ei phrofiadau operatig yn cynnwys gwaith corws helaeth gyda’r RNCM ac Opra Cymru, mewn cynyrchiadau megis L’Étoile (Chabrier), The Snow Maiden (Rimsky-Korsakov), Die Fledermaus(Strauss), Così fan tutte (Mozart) a Don Pasquale (Donizetti). Bu hefyd yn rhan o brosiect creadigol yn yr RNCM, a oedd yn cynnwys ysgrifennu a pherfformio opera newydd i blant, mewn cydweithrediad ag ysgolion lleol i Fanceinion. Yn ddiweddar, bu iddi berfformio rhan Corws y Morwynion yn yr operetta Trial by Jury gan Gilbert and Sullivan yn y Susie Sainsbury Theatre. Mae ei hyfforddiant operatig yn cynnwys rolau mewn golygfeydd, yn cynnwys Servilia yn La clemenza di Tito (Mozart) a Female Chorus yn The Rape of Lucretia (Britten).

Ynghyd â’i gwaith operatig, mae Glesni’n cynnal gyrfa weithgar ac amrywiol fel unawdydd , gyda chryfder penodol mewn oratorio a repertoire cyngerdd. Mae wedi ymddangos fel unawdydd Soprano mewn gweithiau megis Messiah (Handel), Gloria (Vivaldi), Magnificat (Bach) a The Creation (Haydn) gyda chorau ledled Gogledd Cymru. Bu hefyd yn unawdydd gwadd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024, Gŵyl Piano Ryngwladol Caernarfon, ac ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn cerddoriaeth newydd a chyfoes, wedi perfformio gweithiau gan Guto Puw, Paul Mealor a Mererid Hopwood am y tro cyntaf.

Ynghyd â’i gyrfa berfformio, mae wedi datblygu profiad mewn arweinyddiaeth gerddorol a gweinyddu celfyddydol, gan gynnwys arwain corau ac ymgymryd a rolau arweinyddiaeth myfyrwyr etholedig, gan adlewyrchu ymrwymiad i gydweithio, trefnu a meithrin cymunedau cerddorol.