Mae’r soprano ifanc Glesni Rhys Jones yn astudio cwrs meistr yn yr Academi Brenhinol yn Llundain, dan nawdd Cronfa Goffa Ryan Davies. Caiff ei dysgu gan Raymond Connell a Libby Burgess. Yn ddiweddar, perfformiodd fel rhan o gorws yr Academi mewn cynhyrchiad o Carmen (Bizet).

Graddiodd gyda Dosbarth Cyntaf o’r RNCM yn 2025. Yn ystod ei hamser ym Manceinion, enillodd wobr Cerddor y Flwyddyn Cymdeithas Gymraeg Manceinion, yn ogystal ag Honourable Mention Amanda Ira Aldridge yng nghystadleuaeth flynyddol Williams-Howard, gan arwain at gyngerdd gyda’i phianydd Tsukushi Mitsuda yng Ngŵyl Ryngwladol Buxton.

Roedd bod yn ysgolhaig gyda Chôr yr Hallé yn uchafbwynt, gan weithio’n agos gyda Syr Mark Elder a Cherddorfa’r Hallé ac ers hynny mae wedi ennill profiad rhyngwladol gyda Chôr Siambr yr RNCM a Cherddorfa Ieuenctid yr Almaen.

Mae gan Glesni gysylltiad dwfn â thraddodiad corawl ac Eisteddfodol Cymru, ac mae’n ymrwymedig i hyrwyddo repertoire Cymreig ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol. Bu iddi gyrraedd rownd derfynol Ysgoloriaeth Towyn Roberts yn ogystal a’r Unawd Soprano o dan 25 yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025..


DARLLENWCH MWY

Perfformiadau diweddar

Perfformiadau diweddar

Cyngherddau

Rwyf wastad yn barod i gymryd rhan mewn cyngherddau o unrhyw fath. Oes gennych chi gyngerdd mewn golwg? Cysylltwch am fwy o wybodaeth.


CYSYLLTWCH ➤

Priodasau

Eisiau ychwanegu cerddoriaeth i’ch diwrnod arbennig? Gallaf berfformio trefnianau piano neu llais o'ch hoff ganeuon. Cysylltwch am fwy o wybodaeth.

CYSYLLTWCH ➤

Dysgu

Rwy'n cynnig gwersi rhithiol ar Zoom. Oes gennych chi gân rydych chi wir eisiau ei dysgu neu oes berfformiad ar y gweill? Cysylltwch am fwy o wybodaeth.

CYSYLLTWCH ➤