Mae’r soprano ifanc Glesni Rhys Jones yn astudio cwrs meistr yn yr Academi Brenhinol yn Llundain, dan nawdd Ymddiriedolaeth Hywel Davies. Caiff ei dysgu gan Raymond Connell a Libby Burgess. Glesni yw ennillydd Cystadleuaeth Unawd o dan 25 Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ynys Môn 2026.

Graddiodd Glesni gyda Dosbarth Cyntaf o'r RNCM yn 2025. Yn ystod ei hamser yn yr Academi, mae wedi perfformio fel Zweite Dame yn Die Zauberflöte ac fel Female Chorus yn The Rape of Lucretia gan Britten, yn ogystal â chanu yng nghorws cynyrchiadau Carmen a Trial by Jury.

Mae gan Glesni gysylltiad dwfn â thraddodiad corawl ac Eisteddfodol Cymru, ac mae’n ymrwymedig i hyrwyddo repertoire Cymreig ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol. Bu iddi gyrraedd rownd derfynol Ysgoloriaeth Towyn Roberts yn ogystal a’r Unawd Soprano o dan 25 yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.


DARLLENWCH FWY

Perfformiadau diweddar

Perfformiadau diweddar

Cyngherddau

Rwyf wastad yn barod i gymryd rhan mewn cyngherddau o unrhyw fath. Oes gennych chi gyngerdd mewn golwg? Cysylltwch am fwy o wybodaeth.


CYSYLLTWCH ➤

Priodasau

Eisiau ychwanegu cerddoriaeth i’ch diwrnod arbennig? Gallaf berfformio trefnianau piano neu llais o'ch hoff ganeuon. Cysylltwch am fwy o wybodaeth.

CYSYLLTWCH ➤

Dysgu

Rwy'n cynnig gwersi rhithiol ar Zoom. Oes gennych chi gân rydych chi wir eisiau ei dysgu neu oes berfformiad ar y gweill? Cysylltwch am fwy o wybodaeth.

CYSYLLTWCH ➤